Cymraeg English

Capel Bryngwenith

Capel Bryngwenith 2022. Llun Sue Davies
Capel Bryngwenith 2022. Llun Sue Davies
O’r Fam Eglwys sef Capel Hawen, Rhydlewis y tyfodd Achos Bryngwenith. Ym 1831 trwy gynnal Ysgol Sul ar aelwyd Mr Joshua Jones, Blaengwenllan, y tyfodd yr Achos, sef y Capel. Erbyn dechrau 1833 nid oedd ei aelwyd na’i Ysgubor yn ddigon mawr. Wedi cyfarfod pellach yn Ysgubor Rhippyn, pryd y dechreuwyd diwygiad  crefyddol yn y gymdogaeth, aeth y son am adeiladu Capel yn yr ardal.

Yn y flwyddyn 1833 cynigodd Mr Davies, Pantygwenith dir at y Capel ar les o 99 o flynyddoedd am 5 swllt y flwyddyn o ardreth.  Bu i’r bonheddwr hael Evan Jones Ysw Manorafon, Llandeilo gyflwyno y darn yma o dir yn anrheg i’r Capel yn ystod Gweinidogaeth y Parchedig Dan Evans.

Ni orffenwyd yr adeilad ym 1833, ond fe ddywedir i’r ysgol fynd i mewn iddo, cyn ei orffen, i ateb pwnc.  Dydd Calan 1834 lluniwyd llawr y Capel. Ym 1838 a rhwng 1840 y ffurfiwyd Capel Bryngwenith yn swyddogol.  Y Parch. William Jones, o Bwllheli, a 40 o aelodau oedd ar y cychwyn. Erbyn 1855, pan gynhaliwyd y Cwrdd Chwarter am y tro cyntaf roedd rhif yr aelodau wedi cyrraedd 140, ac yn ystod Diwygiad Mawr 1859 cynyddodd y rhif aelodaeth i dros 200.
Ym 1852 ffurfiodd Gweinidogaeth y cylchoedd Gwrdd Chwarter yr Ysgolion Sul. Un newid a wnaed yn y Capel yng nghyfnod  Mr Jones oedd gosod eisteddleoedd mwy cyfleus a chloc ar wyneb yr oriel ym 1853. Ym 1860 rhoddodd Mr Jones fugeiliaeth Hawen a Bryngwenith i fyny, ar ôl bod yn gofalu am 22 o flynyddoedd.

Ym mis Awst 1860 urddwyd Mr John Williams oedd yn enedigol o Grugybar, Sir Gaerfyrddin, yn Weinidog ar Hawen a Bryngwenith a bu yno am 16 mlynedd. Dyma’r adeg y dechreuwyd y Tonic Sol-ffa yn yr ardal.
Ym 1867 penderfynodd yr aelodau i gael Fynwent a chafwyd darn o dir gan Syr Thomas D Lloyd, Bronwydd, tad y diweddar Syr Marteine M Lloyd, ar les o 999 o flynyddoedd am 5 swllt y flwyddyn.  Ym mis Medi 1876 symudodd Mr John Williams i weinidogaethu yn  Sir Gaernarfon ac ym Medi 1878 ordeiniwyd Mr D Adams.

Ym 1880 adeiladodd  y ddwy Eglwys, Hawen a Bryngwenith, dŷ  i’r Gweinidog a’i enwi yn Brynhawen. Ym 1884 y codwyd y Capel presennol.

Ar y 4ydd o Chwefror 1931 ail agorwyd y Capel ar ôl ei adnewyddu. Costiodd y newidiadau, ynghyd a gosod goleuni trydan , tua £350. Hefyd helaethpwyd y Fynwent trwy gael darn arall o dir ar delerau caredig gan Syr Marteine Lloyd. Dyma’r amser pryd yr aethpwyd ati i adeiladu Festri newydd ar dir y Capel.
 
Gwelir mwy o wybodaeth am weinidogion y capel ynghyd a hanes y festri, yn y llyfryn ‘Hanes Eglwys Annibynol Bryngwenith’.  Cyhoeddwyd y llyfryn ar achlysur  dathlu canmlwyddiant a hanner yr Achos ym 1984.