Felin Gernos, Maesllyn
Ni wyddys pryd yr adeiladwyd Melin Gernos ond mae’n amlwg ei bod yn un o adeiladau hynaf Maesllyn. Iddi hi, ynghyd ȃ Melin Pwllcornol y deuai’r ffermwyr lleol a’u haidd a’u ceirch i’w drin. Yn y dyddiau cynnar, byddai’r gwas mawr yn cael ei anfon i’r felin i Grasu’r Ŷd. Cymerai’r crasu gryn amser a cheir hanesion am gyfeillion a chymdogion y gwas yn ymweld ag ef i gadw cwmni iddo, tra byddai wrth ei waith. Arfer a elwid yn Shimli. Adeiladwyd y felin o garreg gyda rhod ddŵr wrth ei hymyl. Ceir tŷ byw yno hefyd. Y deiliad ar adeg gwerthiant ystad y Gernos ym 1907 oedd Mr Rees Thomas. Bu ei fab Evan John Thomas yn felinydd yno am flynyddoedd ac un o’i ddyletswyddau er mwyn cynyddu ffrwd y dŵr i droi’r rhod, oedd rheoli’r llif yn llyn Maesllyn.
Wrth i ddulliau amaethu newid ac i beiriannau ddod yn fwy poblogaidd daeth gwaith y felin i ben yn ystod 30au’r ganrif ddiwethaf. Mae’r lle yn eiddo preifat erbyn hyn.