Cymraeg English

Ffatri Wlȃn Maesllyn

Tŷ golchi, Ffatri Wlȃn Maesllyn
Tŷ golchi, Ffatri Wlȃn Maesllyn
Sefydlwyd y Ffatri Wlȃn ym Maesllyn gan Gwinnett Tyler, Plas Gernos ym 1881 a chyfeiriwyd ati yn wreiddiol fel Ffatri Gernos. Yn y cyfnod hwn bodolai nifer o ffatrioedd yn Nyffryn Teifi wrth i’r galw am gynnyrch o wlȃn dyfu. Yn wir, darparwyd gwlanen o’r ffatri i filwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yna pan werthwyd ystȃd y Gernos yn............... prynwyd y ffatri gan John a Mari Lewis. Daeth hi’n enwog am gynhyrchu blancedi tapestri a brethyn a thyfodd fel cyrchfan poblogaidd i ymwelwyr. Cyflogwyd nifer o drigolion y pentrefi cyfagos ynddi a theg yw crybwyll Tom Rees, Bryncoed, Coedybryn a fu yn wehydd yn y ffatri am 40 o flynyddoedd. Caewyd hi fel ffatri weithredol yn y 70egau a phrynwyd hi i’w defnyddio fel amgueddfa i gartrefu arddangosfeydd a pheiriannau’r diwydiant gwlȃn. Erbyn hyn mae’n eiddo preifat.