Cymraeg English

Capel Bwlchygroes

Capel Bwlchygroes 2022. Llun Sue Davies.
Capel Bwlchygroes 2022. Llun Sue Davies.
Gellir dweud mai dyfodiad y Parchedig Samuel Griffiths i ardal Bwlchygroes a symbylodd y syniad o godi capel yn yr ardal.
Daeth i fyw i Lethr Mawr, fferm heb fod ymhell o Fwlchygroes ym 1818, ac fe ymgymerodd ȃ chadw ysgol yno. Yn ddiweddarach, agorodd ysgol mewn tŷ ym Mwlchygroes ym 1819 a dod i gwrdd ȃ ieuenctid y fro. Gwnaed hyn hyd 1832. Yn y flwyddyn 1833 penderfynwyd adeiladu capel ym Mwlchygroes gyda’r Sgweiar Llywelyn Parry o Blasty’r Gernos yn rhoi £21 tuag at yr adeilad. Rhoddodd brydles ar y tir am 999 o flynyddoedd ar yr amod fod y capel yn cael ei gadw mewn cyflwr da. Aethpwyd ati i adeiladu ac eto penderfynodd y sgweiar i adeiladu galeri ar un ochr i’r capel a’i alw yn Galeri Gernos. Hefyd i adeiladu heol newydd o Gernos i Fwlchygroes.
Ail-adeiladwyd y capel ym 1880 gyda lle i 450 o seddau a derbyniwyd 277 o aelodau.
Ym 1856 derbyniwyd darn o dir eto o stȃd y Gernos, i ffurfio mynwent lle mae llawer o drigolion y fro yn gorwedd mewn hedd.
Ar ôl marwolaeth y Parchedig Samuel Griffiths ym 1860 galwyd y Parchedig J Pennant Phillips i weinidogaethu ac yn dilyn yntau hyd heddiw daeth :
Parch W J Rees ym 1905
Parch Tom Davies 1910 - 1950
Parch W R Nicholas 1952-1965
Parch Tom Thomas 1966 – 1969
Parch Hywel Wyn Richards 1972 – 1979
Parch Elfed Lewys 1980 -1993
Parch Guto Prys ap Gwynfor 2013 -