Capel Coedybryn

Capel Coedybryn 2022. Llun Sue Davies
Adeiladwyd y capel ar dir a gafwyd gan Syr Marteine Lloyd, Bronwydd ar brydles o bump swllt y flwyddyn am 99 mlynedd, wedi’i ddyddio o’r 29ain o Fedi, 1889. Dyma’r tir a oedd
“on the left of the high road leading from Penrhiwpȃl to Henllan Bridge formerly part of Nantypopty Farm situated in the Parish of Llangynllo.”
Casglwyd rhyw £345 gan drigolion yr ardal tuag at gost yr adeiladu a chliriwyd y cyfan erbyn yr agoriad ym 1886. Mae lle i 150 i eistedd o fewn yr adeilad . Ym 1944 fe benderfynwyd prynu Prydles y capel a’r Tŷ Capel gan fod ystȃd y diweddar Syr Marteine Lloyd, Bronwydd, wedi ei gwerthu erbyn hyn. Llwyddwyd i sicrhau hyn drwy haelioni un o’r blaenoriaid. Ym 1946 penderfynwyd sicrhau trwydded i weinyddu priodasau o fewn y capel. Bu galw mynych o blith yr aelodau dros sicrhau festri a mynwent i’r capel ond rhannol fu’r farn. Daeth trydan i gymryd lle’r system nwy Asetylin, ac olew fel modd i oleuo a chynhesu ym 1956. Yn ystod 1966 fe achoswyd difrod pan syrthiodd nenfwd y capel a bu’n rhaid cynnal oedfaon am gyfnod yn neuadd yr ysgol. Cynhaliwyd dathliadau canmlwyddiant llewyrchus ym 1986 a rhai canmlwydd a chwarter yn 2011. Er i nifer yr aelodau ostwng yn y blynyddoedd diwethaf fe gynhelir oedfaon ar y cyd ȃ Chapel y Drindod ddwywaith y mis yn y capel am 10 yb neu 1.30 yp. Bu’r Ysgol Sul yn llewyrchus hefyd hyd 2019.
Codwyd y Tŷ Capel tua 1902 ac ers ei werthu ym 2021 gwnaethpwyd gwelliannau i safle’r capel trwy osod llwybrau a chyfleusterau ar gyfer yr anabl.
Gweinidogion
-
Wedi marwolaeth y Parchedig Dafydd Oliver ym 1913, rhoddwyd Coedybryn o dan ofal yr un gweinidog ȃ Chapel y Drindod, sef y Parchedig E S Davies hyd ei ymddeoliad yntau ym 1953.
-
J Edward Williams 1955-1963
-
R Wynford Lewis 1965-1970
-
Hartwell Lloyd Morgan 1972-1976
-
Gwyn Davies-Jones 1982-1983
-
Griffith G Jones 1983-1991
-
Di-Fugail 1991-