Cymraeg English

Capel Coedybryn

Capel Coedybryn 2022. Llun Sue Davies
Capel Coedybryn 2022. Llun Sue Davies
Codwyd capel yng Nghoedybryn ym 1886 i ateb y twf a fu yn hanes y Methodistiaid Calfinaidd o fewn yr ardal yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bodolai tri chapel eisoes yn y cylch sef Twrgwyn, Rhydlewis a godwyd ym 1750, Capel y Drindod, Aberbanc a godwyd ym 1794 a Salem, Brongest a godwyd ym 1811. Y Parchedig Dafydd Oliver a oedd yn fugail ar Dwrgwyn ers 1868 a ddaeth ag achos i’r Cyfarfod Misol ynglŷn ȃ chael capel yng Nghoedybryn ac yntau wedyn a sefydlwyd fel bugail cyntaf yr eglwys. Mae disgynyddion o’i deulu yn dal i fyw yng Nghoedybryn.

 Adeiladwyd y capel ar dir a gafwyd gan Syr Marteine Lloyd, Bronwydd ar brydles o bump swllt y flwyddyn am 99 mlynedd, wedi’i ddyddio o’r 29ain o Fedi, 1889. Dyma’r tir a oedd
 “on the left of the high road leading from Penrhiwpȃl to Henllan Bridge formerly part of Nantypopty Farm situated in the Parish of Llangynllo.”

Casglwyd rhyw £345 gan drigolion yr ardal tuag at gost yr adeiladu a chliriwyd y cyfan erbyn yr agoriad ym 1886. Mae lle i 150 i eistedd o fewn yr adeilad . Ym 1944 fe benderfynwyd prynu Prydles y capel a’r Tŷ Capel gan fod ystȃd y diweddar Syr Marteine Lloyd, Bronwydd, wedi ei gwerthu erbyn hyn. Llwyddwyd i sicrhau hyn drwy haelioni un o’r blaenoriaid. Ym 1946 penderfynwyd sicrhau trwydded i weinyddu priodasau o fewn y capel. Bu galw mynych o blith yr aelodau dros sicrhau festri a mynwent i’r capel ond rhannol fu’r farn. Daeth trydan i gymryd lle’r system nwy Asetylin, ac olew fel modd i oleuo a chynhesu ym 1956. Yn ystod 1966 fe achoswyd difrod pan syrthiodd nenfwd y capel a bu’n rhaid cynnal oedfaon am gyfnod yn neuadd yr ysgol. Cynhaliwyd dathliadau canmlwyddiant llewyrchus ym 1986 a rhai canmlwydd a chwarter yn 2011. Er i nifer yr aelodau ostwng yn y blynyddoedd diwethaf fe gynhelir oedfaon ar y cyd ȃ Chapel y Drindod ddwywaith y mis yn y capel am 10 yb neu 1.30 yp. Bu’r Ysgol Sul yn llewyrchus hefyd hyd 2019.

Codwyd y Tŷ Capel tua 1902 ac ers ei werthu ym 2021 gwnaethpwyd gwelliannau i safle’r capel trwy osod llwybrau a chyfleusterau ar gyfer yr anabl.

Gweinidogion