Dywediadau Lleol
Bydd neb yn gofyn faint o amser dreuliaist ti’n gwneud y gwaith ond bydd pawb yn gofyn pwy wnaeth y gwaith.
Petai’r byd yn troi’n bedyll a finnau heb badell.
Canmoled arall dydy.
Clywed tren Henllan o Goedybryn, glaw yn agos
Aml gweler ar y farchnad croen yr oen a chroen y ddafad.
Tri pheth sy'n anodd iawn i'w nabod, dyn, derwen a diwrnod. Mae'r dydd yn troi, y dderwen yn gou a dyn yn ddau wynebog.