Cymraeg English

Ffrwyth y Coed, Hanes Addysg yn ardal Coedybryn 1738-2016

(History of Eduction in the Coedybryn area 1738 - 2016)

Ffrwyth y Coed
Ffrwyth y Coed

The Book was publish in 2020 and is in Welsh.


An audio English reading and description is available on CDs and to listen to here. We suggest that you look at the book and listen to the audio at the same time as the book is filled with some wonderful photographs.

Ffrwyth y Coed, Hanes Addysg yn ardal Coedybryn 1738-2016

Content, Foreword and Thanks

Part 1 1 - 1738-1878

Part 1 Chapter 2 - 1879-1922

 

Part 1 Chapter 3 - 1922-1932

 

Part 1 Chapter 4 - 1932-1934

 

Part 2 Chapter 1 - 1934-1943

 

Part 2 Chapter 2 - 1943-1957

 

Part 2 Chapter 3 - 1958-1976

 

Part 2 Chapter 4 - 1976-1988

 

Part 3 Chapter 1 - 1988-1995

 

Part 3 Chapter 2 - 1995-2000

 

Part 3 Chapter 2 - 2010-2016

 

Er gwaethaf y pandemig mae trigolion Coedybryn a’r cylch wedi llwyddo i gyhoeddi llyfr am addysg yn yr ardal. Ym mis Chwefror 2019 daeth nifer o bobl yr ardal at ei gilydd i ffurfio Pwyllgor “Cymdeithas Plant y Bryn.” Y nod oedd mynd ati i greu llyfr yn olrhain hanes yr ysgol a’r ardal. Conglfaen yr hanes fyddai atgofion cyn-ddisgyblion.
 
Y cam cyntaf oedd casglu atgofion a deunydd megis ffotograffau a dogfennau a oedd gyda phobl yr ardal yn eu cartrefi. Y cam nesaf oedd ymchwilio i hanes yr ysgol ac addysg yn Ardal Coedybryn  trwy bori yn y deunydd a oedd ar gael yn yr Archifdy a’r Llyfrgell Genedlaethol. I nifer o bobl ar draws Cymru mae Ysgol Coedybryn yn enwog oherwydd dyma’r ysgol y bu’r prifardd a’r awdur enwog, T. Llew Jones, yn Bennaeth arni rhwng 1958 ac 1976. Roedd byw yn yr ardal wedi cael dylanwad mawr ar ei ysgrifau a’i farddoniaeth. Fodd bynnag nid dyma’r unig awdur a fu yn Ysgol Coedybryn. Pennaeth yr ysgol rhwng 1922-1932 oedd Percy Davis, a chyhoeddodd ei ferch Sian (James yn ddiweddarach), nifer o nofelau gan gynnwys ‘A Small Country.’ Er na fu Sian yn ddisgybl yn yr ysgol mae’n amlwg bod y profiad o fyw yn yr ardal wedi cael dylanwad mawr ar ei llyfrau.
 
Yn ddiweddarach mynychodd y ddarlledwraig Beti George Ysgol Coedybryn. Mam Beti oedd cogyddes yr ysgol am nifer o flynyddoedd. Mae’r awdures a’r sgriptwraig Fflur Dafydd yn datgan bod y cyfnod o fod yn ddisgybl yn yr ysgol yn un o’r adegau hapusaf yn ei bywyd. Sylw sy’n cael ei ategu gan eraill yn eu hatgofion.
 
Teitl y llyfr yw  ‘Ffrwyth y Coed’ ac o fewn ei glawr lliwgar a deniadol ceir hanes newid mewn cymuned wledig a Chymreig dros gyfnod o bron 300 mlynedd. Mae’r hanesion yn cwmpasu nifer o ddigwyddiadau  megis y ddau Ryfel Byd a dyfodiad yr ifaciwis yn ogystal ȃ’r newid mewn addysg a diniweidrwydd chwaraeon plant trwy’r oesau.

Diolch i gefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri, Cyngor Cymuned Troedyraur, Neuadd Gymunedol Coedybryn a Chlwb Cinio Cynllo llwyddwyd i greu adnodd ar gyfer haneswyr y dyfodol a rhywbeth i’w drysori i’r rhai a fu yn ymwneud ȃ’r ysgol neu sydd â chysylltiad ȃ’r ardal.

Ymateb i’r cyhoeddiad hyd yn hyn: 
 
“ Not only did I turn to the pages of my time at the school, but it’s so interesting also to see how it served through the generations” 
 
“ Mae’r gwaith caled wedi talu ar ei ganfed”
 
“The quality is superb; properly bound and hardback too” 
 
“ Y cyfan wedi’i groniclo i adrannau ac amser yn gywrain iawn”
 
“ Un o’r llyfrau harddaf ac yn sicr o ran y detholiad yn syml ac eto’n drefnus gynnil” 

Heritage Lottery logo