Cymraeg English


Neuadd Bentref Coedybryn

Yr hen neuadd bentref Coedybryn
Yr hen neuadd bentref Coedybryn
Ym mis Medi 1947 cynhaliwyd cyfarfod o drigolion y pentref yn yr ysgol i drafod y syniad o godi neuadd bentref yng Nghoedybryn. Cyflwynwyd y tir ar ei chyfer gan Joshua Evans, Rhoslwyn. Yna ym Mawrth 1948 ceir cofnod am gynnal Gyrfa Chwist yn yr ysgol gyda’r diben o gasglu arian at ei hadeiladu. Erbyn Rhagfyr 1951 roedd y partion Nadolig o dan nawdd y WI yn cael eu cynnal yn y Neuadd Bentref newydd a agorwyd  ar y 3ydd o Dachwedd, 1951. Adeilad sinc a bwrcaswyd o wersyll Henllan oedd hi.

Erbyn 2010 roedd yr hen neuadd wedi’i dymchwel ac adeilad newydd wedi cymryd ei lle ar y safle. Cynhaliwyd agoriad swyddogol y neuadd newydd ar Hydref 22ain, 2010. Yn 2022 (2 flynedd yn hwyrach na’r bwriad oherwydd covid) cynhaliwyd cyngerdd mawreddog i ddathlu degawd cyntaf y neuadd newydd. Cynhelir amrywiaeth o weithgareddau cymunedol ynddi yn amrywio o glwb tenis bwrdd i sesiynau crefft a phartion penblwydd.

Neuadd Coedybryn yn Dathlu 40 Mlynedd (1991)

Nid ydyw’n syndod heno
Ein bod ni oll fan hyn,
Waeth dathlu deugain mlynedd
Mae Neuadd Coedybryn.

Rhyw griw bach go frwdfrydig
Sy’n haeddu cael y clôd,
Cytunwyd mewn cae tato
Mae neuadd oedd y nôd.

Ac ar dir Josi Rhoslwyn
Dechreuwyd yn y man,
Gan agor drysau’r neuadd
Yn ‘nineteen fifty one’.

Oddiar y cychwyn cyntaf
Yr un trysorydd sydd,
A heno rhaid rhoi teyrnged
I Ifor Blaenbach Crydd

Fe roes dros ddeugain mlynedd
O’i amser ac o’i ddawn,
A mawr yw’r ddyled iddo
Am gadw’r llyfrau’n iawn.

Rhaid diolch heno hefyd
I Tom o Benrhiwpâl
Fu’n printio ar ein cyfer
A hynny yn ddi-dâl.

A nac anghofiwn Enoc,
Cadeirydd gwerth ei gael
Sydd bron bod bymtheg mlynedd
Yn gweithio yn ddi-ffael.

Wrth edrych mlaen, dymunwn
Rhwydd hynt i’r bobol hyn
Sy’n cadw’r drws ar agor
Yn Neuadd Coedybryn.



.