Panteg, Croeslan
Yr Hen Banteg
Dyma enghraifft o’r hen Banteg cyn ei ddymchwel ym 1976 oherwydd diogelwch. Roedd yn enghraifft arbennig o fwthyn Sir Aberteifi. Roedd ei wneuthuriad o rwbel a chlai gyda’r ddau dalcen o gerrig. Lluniwyd un simne o gerrig a’r llall o fricen felen. To gwellt oedd iddo wedi’i orchuddio ȃ shiteni haearn ac edrychai’r bwthyn yn lan gyda gwyngalch. Ar ochr un drws roedd tabled a slaten gyda’r geiriau canlynol arnynt:
John Elias
Pantteg
1806
Ar ôl iddo fod yn gartref i bobl flynyddoedd yn ôl defnyddiwyd ef wedyn fel cartref i anifeiliaid dros y gaeaf. Pantteg
1806