Cymraeg English

Plas y Bronwydd

Plas Bronwydd yn 1992. Llun Sue Davies
Plas Bronwydd yn 1992. Llun Sue Davies

Roedd Plas y Bronwydd yn gartref i deulu’r Llwydiaid o 1596 – 1937. Cafodd y plas ei ail-adeiladu yn 1853 gan R K Penson i Syr Thomas Davies Lloyd ar ffurff castell ‘Rhineland’ rhamantaidd. Syr Thomas Davies Lloyd oedd tad Syr Marteine O M Lloyd.
Y contractwyr oedd Messers Roberts and Jones.

Yn ôl ‘Llyfr Hanes Plwyf Llangunllo’ mi gostiodd £10,000 i’w adeiladu. Pan osodwyd y garreg Sylfaen ar gyfer y plasdy Newydd ym Mronwydd yn 1853 roedd nifer o ddisgyblion hŷn Ysgol Aberbanc wedi ysgrifennu eu henwau ar sgrol oedd i’w gosod o dan y garreg sylfaen. Mae’r capsiwl oedd yn cynnwys y sgrol a rhai darnau arian o’r cyfnod gyda’r teulu sy’n byw yno heddiw.

Bu plant yr ardal yn angladd Syr Thomas Davies Lloyd ar Orffennaf 27ain 1877.

Yn Nhachwedd 6ed 1928 roedd Syr Marteine a’r Fonesig Lloyd yn dathlu eu priodas aur a gwahoddwyd holl denantiaid yr ystad i’r Plas i ddathlu.
Bu farw Syr Marteine Lloyd yn 82 mlwydd oed ac fe’u claddwyd yn y ddaeargell deuluol yn Eglwys Llangunllo ar Ebrill 8fed 1933.

Syr Marteine Owen Mowbray Lloyd oedd yr aelod olaf o’r teulu i fyw ym Mronwydd.
Pan fu Syr Marteine farw roedd gan yr ystâd ddyledion.
Bu farw’r Fonesig Lloyd yn 1937.
Fel y dywed Leslie Baker-Jones amdano,” roedd yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r crachach gan ei fod yn medru siarad rhywfaint o Gymraeg ac yn mynychu capeli’r ardal ac eisteddfodau lleol”.

Fe ddywedir amdano, ac am ei gyndeidiau, na chafodd un tenant o ystâd y Bronwydd ei erlid o’i fferm neu dŷ oherwydd trafferth talu rhent.
Cynhaliwyd arwerthiant o’r ystâd oedd yn 2,072 o erwau ar Awst 5ed 1937 i oresgyn rhai dyledion.
Cynhaliwyd ail arwerthiant o’r ystâd ar Awst 4ydd 1944 oedd yn 1,175 erw erbyn hyn.
Bu farw mab Syr Marteine a’r Foneddiges yn Somme yn 1916 yn ystod y rhyfel byd cyntaf.