Plasty’r Gernos
Un o anheddau pwysicaf Plwyf Llangynllo yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Plasty’r Gernos. Adeiladwyd y plasty cyntaf tua 1801 a meddyliwyd yn gyffredinol mai Caer y Nos oedd yr enw cyntaf arno gan fod rhyw fath o wersyll yn gysylltiedig ȃ’r Rhufeiniaid gerllaw. Awgrym arall yw fod cymaint o goed gwern (alder) o gwmpas fel mai Gwernos oedd yr enw cyntaf arno.
Roedd prif fynedfa’r plasty ar ochr Coedybryn, gyda choed gwern bob ochr i’r ffordd a arweiniai ato. Adweinir y llwybr hyd y dydd heddiw, fel y “dreif”. Tua 1870 adnewyddwyd y plasty.
Bu penddelw o Harri VII yn y plasty ar un adeg ynghyd ȃ chorn arian o’i eiddo.
Dau deulu amlwg fu’n gysylltiedig ȃ’r plasty sef y teulu Parry a’r Tyler. Gwinnett Tyler sefydlodd y ffatri wlȃn ym Maesllyn ym 1880, a roes waith i lawer o bobol yr ardal.