Cymraeg English

Ysgol Newydd

Mor gynnar ȃ 1922 nodir mewn adroddiad gan Arolygwyr ei Mawrhydi bod adeilad yr ysgol wedi ei osod ar restr o adeiladau y dylid eu hatgyweirio yn ystod 1921 ond methwyd ȃ gwneud hynny. Dygir ein sylw  yn y Llyfr Log, ymhellach at y ffaith bod cyflwr gwael yr adeilad wedi’i nodi gan Bensaer y Sir mewn adroddiadau ym 1916 a 1918.  Roedd yr adeilad fel ag yr oedd yn addas ar gyfer 100 o ddisgyblion, 67 yn y brif ystafell a 33 yn yr ystafell ddosbarth.

Ym mis Mehefin 1929 cyhoeddwyd adroddiad pellach gan Arolygwyr ei Mawrhydi ar Bryn, Llangynllo Council School. Tra’n canmol y ddarpariaeth addysgol cyflwynwyd nifer o bryderon am gyflwr gwael yr adeilad. Cyfeiriwyd at y ffaith bod y plastr ar y welydd mewnol yn syrthio’n ddarnau, y to yn gollwng ac iard chwarae y plant yn “layer of dust during dry weather and a quagmire of mud during wet weather”. Awgrymwyd bod yr awdurdod addysg yn rhoi sylw brys i gyflwr yr ysgol fel rhan o’r Cynllun Ail-drefnu arfaethiedig.

Sôn am Ysgol Newydd 

Ceir cyfeiriad yn y Llyfr Log at ymweliad Mr T Owen HMI,
Mr H Lewis (Cyfarwyddwr Addysg) a Mr Rhys Jones ( Pensaer y Sir) ȃ’r ysgol ym mis Ionawr 1931, gyda’r bwriad o gasglu gwybodaeth  er mwyn gosod safle a maint yr ysgol newydd.
Ym mis Mawrth 1931 ystyriwyd y mater o brynu tir ychwanegol cyfagos i’r ysgol wreiddiol ac ym mis Ebrill yr un flwyddyn cymeradwywyd y cynlluniau. Enillodd Messers Jones Brothers Llwynygroes, Bwlchygroes y cytundeb i godi’r adeilad newydd ar  gost o £3,700 a  phrynwyd ¾ erw o dir a oedd yn eiddo i Syr  Marteine Lloyd, Bronwydd am £40. Ar y tir hwn y codwyd yr adeilad newydd.
 
Yn ddiddorol ddigon, ceir cyfeiriad yng nghofnodion  Pwyllgor Addysg Ceredigion at y ffaith bod yna wrthwynebiad i’r cynllun o ddymchwel yr hen adeilad a chodi ysgol a thŷ’r ysgol newydd, a hwnnw wedi ei ddebyn ar ran trethdalwyr plwyf Llangynllo. Yn y llythyr a anfonwyd gan glerc cyngor y plwyf dywedir nad oeddent yn cytuno ȃ’r cynllun arfaethiedig gan fod yr hen ysgol yn “quite adequate and suitable to meet the needs of the district provided that the necessary repairs be done”. Roeddent o’r farn hefyd nad oedd angen Tŷ’r Ysgol newydd gan fod yr un presennol wedi ei adnewyddu yn ddiweddar ar gost uchel ac yn sicr nid oedd angen ei ddymchwel. Bu Mr Evan Evans, Maesllyn (Cadeirydd y Cyngor Plwyf) yn siarad o flaen y pwyllgor yn amlinellu eu gwrthwynebiad.

Eto, wedi ystyried adroddiad Dr Ernest Lloyd ( Swyddog Meddygol yr Ysgolion ) ar fygythiad yr adeilad presennol i iechyd y disgyblion, cytunodd y Pwyllgor Addysg i fynd ymlaen ȃ’r cynllun. Cytunwyd hefyd ei bod yn angenrheidiol i adeiladu tŷ’r ysgol newydd ar wahan i adeilad yr ysgol a chodi rhent o £18 yn flynyddol ar y tenant. Oherwydd i’r contractwyr gwreiddiol fethu cwblhau’r gwaith mewn pryd gorffennwyd y gwaith adnewyddu gan gontractwyr Messers Jones and Reynolds, Cei Newydd ar gost o £2,496.10s.0d.
 
Cynhaliwyd agoriad swyddogol yr ysgol newydd ar ddydd Gwener Tachwedd 16eg, 1934.