Dadorchuddio map Coedybryn a'r Fro
Cynhaliwyd Prynhawn Agored yn Neuadd Gymunedol Coedybryn ar Sadwrn 19 Tachwedd. Yn ystod y prynhawn dadorchuddiwyd map darluniadol o ddalgylch Ysgol Coedybryn ynghyd a lansio’r wefan coedybryn.cymru. Roedd y dathliad yma yn rhan o brosiect yr ardal yn sgil grant ‘Trysorau’r Filltir Sgwâr’, sef grant y Loteri Genedlaethol, Cadw a Llywodraeth Cymru.
Dadorchuddiwyd y map, o ddyluniad Martha Brown, o Goedybryn, gan drigolion hynaf yr ardal sef Mr Lyn Davies a Mrs Doreen Rees. Yn anffodus nid oedd yn bosib i Miss Nancy Davies fod yn bresennol. Cyflwynwyd y tri gan Beti George, cyflwynydd adnabyddus ar Radio Cymru ac S4C, sydd a’i gwreiddiau yn ddwfn iawn yn yr ardal. Wedi’r dadorchuddio, lansiwyd y wefan gan Beti trwy ddefnyddio’r cod qr oddiar y map.
Dilynwyd gan luniaeth ysgafn a chyfle i weld arddangosfa fechan o daflen teithiau cerdded lleol, gwrando ar recordiad Cymraeg a Saesneg o’r llyfr Ffrwyth y Coed ynghyd â gweithdy ar ddefnyddio’r wefan. Megis dechrau ma’r wefan, felly mae croeso ichi gysylltu â ni gyda’ch hanesion, lluniau neu storïau am yr ardal.
Hoffai’r trefnwyr, Cymdeithas Plant y Bryn, ddiolch i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd at lwyddiant y diwrnod ac i holl brosiect Ffrwyth y Coed.
