Eglwys Plwyf Llangynllo

Eglwys Plwyf Llangynllo. Llun Sue Davies.
Lleolir Eglwys Sant Cynllo yn ymyl pentref Coedybryn ac yn edrych dros gwm Bronwydd. Rhwng 1868 ac 1870 fe godwyd adeilad newydd ar safle yr eglwys flaenorol. Yn ôl y sôn, cafodd y tŵr ei gadw i barhau’r cysylltiad gyda’r gorffennol. Teulu Llwydiaid, plasdy Bronwydd a theulu Tyler, plasdy Gernos, oedd yn bennaf gyfrifol am gael hyd i’r £2,200 ar gyfer adeiladu. John Middleton o Cheltenham oedd y pensaer.
Mae’r eglwys yn esiampl arbennig o bensaernïaeth o hyn a elwir yn ‘ High Victorian’. Defnyddiwyd nifer o ddefnyddiau megis marmor, gwenithfaen a cherrig Bath o fewn yr adeilad. Ma llawr y gangell o deils wedi eu cyflenwi gan Messrs Minton o Stoke on Trent ac mae’r to addurniadol wedi ei rannu i baneli wedi eu haddurno mewn aur ac yn cael eu cynnal gan gerfiadau o wyth angel. Mae nenfwd corff yr eglwys yn agored ac ma’r corau o wneuthuriad pîn. Mae gosodiad croes o farmor gwyn, wedi ei haddurno gan farmor lliw, ac ar gefndir o alabaster i’w gweld uwchben yr allor. Ar fwa’r gangell mae cerfiadau o bennau St. Mathew a St.Marc yn wynebu am y gorllewin a St. Luc a St.Ioan yn wynebu’r dwyrain.
Gwelir cerfiadau o safon drwyddi draw. Fe’i gwelir uwchben yr allor, y pulpud, y fedyddfan ac hefyd mewn cerflun o Ruth.Mae yma nifer o ffenestri lliw gyda’r ffenest ddwyreiniol uwchben yr allor yn ddyluniad arbennig gan Messrs Hardman o Birmingham. Rhoddwyd y ffenest orllewinol gan Syr Marteine a Ladi Lloyd, Bronwydd, er cof am ei unig mab Capten Marteine Kemes Arundel Lloyd a fu farw yn y Somme yn 1916. Lleolir tair ffenest liw yn y gangell o wneuthiriad, eto, gan John Hardman. Gosodwyd rhain yn 1909 er cof am Mr Gwinnet Tyler, ei wraig, a theulu Gernos.
Mae yma nifer o gerrig coffa ac hefyd plâtiau pres ar y muriau er cof am wahanol deuluoedd. Ynghyd a rheiny , ac ymysg pethau eraill, mae yna ddesg litani, darllenfa, llestri cymun, harmonium, cannwyllbrennau pres a phren, a chawgiau blodau. Y cyfan wedi eu rhoi er cof am annwyliaid.
Lleolir yr organ i ogledd y gangell. Dyma oedd lleoliad festri’r eglwys tan yr adeiladwyd yr un bresennol yn 1897. Rhennir y darn yma oddiwrth y gangell gan fwa sy’n cael ei chynnal gan gerfiadau o angylion.. Saif meindwr ar ben dŵr yr eglwys ac yma lleolir y gloch.