Cymraeg English

Gefail Maesllyn

Erbyn hyn dim ond ychydig o wal yr hen efail sy’n aros ar waelod rhiw Maesllyn. Yn ôl trigolion hynaf Maesllyn arferid cyfeirio at Tŷ Newydd sy’n sefyll ar ganol y pentref fel Tŷ Mari Go’. Credir mai yn y tŷ hwn, felly,  roedd un o ofaint cynharaf yr efail yn byw. Roedd yr adeilad wrth ymyl yr efail (Glanyrafon heddiw) yn berchen i ffatri Gernos ac yn cael ei ddefnyddio fel clwb i’r gweithwyr. Pan brynwyd y ffatri gan John a Mari Lewis rhannwyd yr adeilad yn ddau dŷ ac yn y tŷ oedd agosaf at yr efail sef Greenvale roedd gof diweddarach yn byw sef Tom Davies (Tom Go’). Ar ddiwedd y 30au symudodd Tom Davies a’i deulu i fyw yn Tegfryn, Coedybryn a chodwyd efail newydd gyferbyn ag Arwel, Coedybryn. Yn fuan wedi hynny tynnwyd rhan o efail Maesllyn i lawr er mwyn lledaenu’r tro ar waelod y rhiw.