Croeso i wefan gymunedol Coedybryn
Cyhoedddwyd y llyfr “Ffrwyth y Coed – Hanes Addysg yn Ardal Coedybryn 1738-2016” yn 2022. Un o ffrwythau “Ffrwyth y Coed” yw’r wefan hon. Mae’r cyfoeth o wybodaeth a gasglwyd am hanes yr ysgol wedi esgor ar lawer iawn mwy o wybodaeth am hanes yr ardal a’r bobl– trwy luniau, atgofion pobl, dogfennau a ffynonellau eraill. I raddau helaeth man cychwyn oedd y llyfr ar gyfer casglu gwybodaeth ac i gofnodi rhan holl bwysig o ddatblygiad y fro a’r newid dros amser. Mae’r wefan yn agor drws arall ac yn cynnig cyfle i gofnodi llawer iawn mwy am yr ardal, y bobl, traddodiadau hen a newydd a digwyddiadau ddoe a heddiw.
Beth yw hanes safleoedd hanesyddol fel Crug y Balog a safleodd hanesyddol eraill yn yr ardal? O ble daeth yr enwau Lôn Winllan, Gernos ac Allt y Clochdy?
Beth yw tarddiad enwau fel Blaen-bach-crydd, yr Afon Cwerchyr, Penrhiw-pâl a Glynhynod?
Ym mha ffyrdd y mae ffermio a ffordd o fyw wedi newid dros amser?
Pwy oedd….? Beth ddigwyddodd yn ….? Ceir rhai o’r atebion ar y wefan.
Amdano Ni
Daeth nifer fechan o unigolion at ei gilydd i sefydlu pwyllgor Cymdeithas Plant Y Bryn yn 2019. Ffurfiwyd y pwyllgor gyda’r nod o greu llyfr i olrhain hanes yr ysgol a’r ardal. Daeth Covid 19 ar ein traws i’n rhwystro i gyfarfod wyneb yn wyneb, ond erbyn diwedd 2021 bu’r pwyllgor yn llwyddiannus yn ein cais am grant “Trysorau’r Filltir Sgwâr”. Grant a roddwyd gan Y Loteri Genedlaethol, Cadw a Llywodraeth Cymru.
Erbyn hyn, cyhoeddwyd llyfr “Ffrwyth y Coed” ar hanes addysg yn yr ardal. Mae’r wefan, ynghyd â gwahanol weithgareddau eraill, yn ffrwyth o’r gwaith a wnaed ers y cyhoeddiad hwnnw.