Llys - Tafarndy - Siop
Penrhiwpâl Isa
Ceir hanesion am yr adeilad ym mhapurau Cymreig Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ei gwefan llyfrgell.cymru.
Gwelir adeilad ar y safle ar fap degwm o’r ardal. Cafodd mapiau degwm eu paratoi yn dilyn Deddf Cyfnewidiad Degwm 1836.
Gwyddom o erthygl mewn papur newydd o’r cyfnod, bod ‘The Bronwydd Beagles’ wedi cyfarfod mewn tafarndy ym Mhenrhiwpâl yn 1845.
Cyfeirwyd yng nghofnodion Bwrdd Unedig Troedyraur 1876 eu bod hwy yn cyfarfod yn y ‘board room’ Penrhiwpâl.
Gwelwn mewn nifer o erthyglau papur newydd ers 1875 fod Llys Ynadon, neu’r ‘Petty sessions’ fel eu gelwir, yn cael eu cynnal yn yr adeilad.
Ym 1894, y mae cofrestr mynediad Ysgol Y Bryn, yn dangos cofrestriad plentyn o Dafarndy Penrhiwpâl. Mewn erthygl yn Y Brython Cymreig yn 1897, lle adroddir hanes priodas yn yr ardal, cyfeirir at y cyfeilydd i Gôr St Cunllo fel W Evans, Penrhiwpâl Inn.
Gwrthodwyd adnewyddu trwydded i dafarndy Penrhiwpâl ym 1916 oherwydd cyflwr yr adeilad.
Ym 1918 roedd yr adeilad mewn ocsiwn a gweler y disgrifiad o gatalog yr arwerthiant yng nghlwm.
Ym 1924 gwelwn gofrestriad plentyn o Siop Penrhiwpâl i Ysgol y Bryn.


