Ysgol Bryn, Llangynllo
Gwelir manylion pellach am adeiladau y ddwy ysgol yng Nghoedybryn yn llyfr ‘ Ffrwyth y Coed’ a gyhoeddwyd yn 2022.
Mewn cyfarfod o’r Bwrdd Ysgol ym mis Mai 1875 penderfynwyd mynd i weld tir ar gyfer adeiladu ysgoldy yn agos i Faesllyn. Yng nghofnodion Mis Hydref 1875 nodwyd na allai’r pwyllgor gytuno ar safle ym Maesllyn a chytunwyd i ofyn i Syr Thomas Davies Lloyd Bart am safle i adeiladu ysgoldy ar dir Parcyreithin ar fferm Nantypopty. Aethpwyd ymlaen ym mis Rhagfyr o’r un flwyddyn i sicrhau bod y cynlluniau yn cael eu creu er mwyn i’r Bwrdd wneud cais i Adran fenthyciadau’r Llywodraeth am arian er mwyn adeiladu’r ysgoldy.
Yn dilyn cyfarfod safle ar Awst 14eg 1876 penderfynwyd yn derfynol i godi ysgol Bryn Llangynllo ar lecyn ar ochr dde’r ffordd sy’n arwain o Benrhiwpal i Langynllo, sef rhan o dir ar fferm Nantypopty. Cynnigodd Syr Thomas Davies Lloyd Bart y safle ar gost o £35 am hanner erw o dir. Defnyddiwyd cerrig o chwarel Gernos a thywod o Bantdafydd.
Ym mis Mis Mai 1877 penderfynwyd caniatẚu cyfnod o naw mis i Mr Daniel Jones, Pencware, Llandygwydd i godi’r ysgoldy a thŷ’r ysgol. Ym mis Gorffennaf gwnaethpwyd cais i ddefnyddio Ysgoldy Fach yr eglwys fel ysgol dros dro hyd nes bod y Bryn School wedi ei chwblhau. Gwnaethpwyd cais hefyd yn yr un modd i Ymddiriedolwyr Capel Bwlchygroes i rentu ystafell ger y capel hwnnw er mwyn cynnal ysgol dros dro.
Yng Ngorffennaf 1878 gwnaed cytundeb terfynol rhwng y Bwrdd Ysgol a Mr Daniel Jones i adeiladu ysgoldy Bryn Llangynllo a thŷ’r ysgol yng nghlwm wrtho am y swm o £672.
Gofynnwyd i’r clerc hysbysebu’r swydd o Athro Cofrestredig ar gyfer Ysgol Bryn, Llangynllo ym “Maner ac Amserau Cymru” ar gyflog o £40 y flwyddyn gyda thŷ a gardd yn ddi-rent.
Agorwyd ysgoldy a thŷ’r ysgol Bryn, Llangynllo ym mhentref Coedybryn i gynnwys 107 o ddisgyblion ym 1880.